
Syniad llawer o bobl ifanc o wirfoddoli yw gweithio heb gael eich talu. Fodd bynnag, gall gwirfoddoli gynnig ystod o fuddiannau i bobl ifanc fydd yn eu helpu nhw yn y dyfodol. Gall eu darparu nhw ag ystod o sgiliau a phrofiad, rhoi geirda ar gyfer swydd a’u helpu nhw i gwrdd â phobl ifanc eraill. Ac mae gwirfoddoli’n cwmpasu ystod eang o weithgraeddau – a gall fod yn sbort!
Mae CBSA yn gweithio gyda phobl ifanc yn ddyddiol ac yn gweld y buddion hyn a sut y gall gwirfoddoli newid bywydau pobl.
Mae gennym ni nifer o gyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer pobl ifanc yn CBSA, ond peidiwch â chymryd ein gair ni, gwrandewch ar farn rhai o’r bobl ifanc sydd wedi mwynhau buddion gwirfoddoli.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â:
Gwirfoddoli CBSA
Ffôn - 01554 779910
eBost - .(JavaScript must be enabled to view this email address)