Codi dyheadau Pobl Ifanc a chwrdd â nhw – mae’r ddau beth yn allweddol er mwyn torri cylch dieflig anfantais a bod heb waith. Gyda diweithdra pobl ifanc yn 25%, gallai hunangyflogaeth fod yn allwedd i ddyfodol gwell i lawer.
Mae gan CBSA 25 mlynedd o brofiad mewn helpu pobl ifanc i ddechrau busnes ac mae STEP Up into Business yn parhau â’r traddodiad hwn. Mae’n darparu pobl ifanc ddi-waith sy’n byw yn Sir Gâr ac Abertawe â’r sgiliau, y wybodaeth a’r hyder i fynd yn hunangyflogedig fel modd o ddianc rhag anweithgarwch cymdeithasol ac economaidd. Ond nid ydym ni’n gwneud hyn ar ein pennau ein hunain – mae busnesau yng Nghymru wedi adnabod y rôl bwysig sydd ganddynt wrth gefnogi pobl ifanc i wireddu eu potensial, ac maent yn cefnogi’r prosiect drwy fod yn fentorau.
Ariennir y rhaglen gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Borth Ymgysylltu Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ac mae’n darparu’r canlynol i bobl ifanc:
Am wybodaeth bellach cysylltwch â:
STEP Up into Business CBSA
Ffôn - 01554 779910
eBost - .(JavaScript must be enabled to view this email address)