Step Up

Prosiect Cyflogaeth Dros-dro Abertawe (Step-up)

Mae llawer o bobl ifanc NEET wedi gadael ysgol heb gymhwyster nag unrhyw ddealltwriaeth o fyd gwaith na’r hyn mae cyflogwyr ei eisiau.  Yn aml, maen nhw hefyd yn brin o’r dyhead a’r hunan-gred sy’n caniatáu iddyn nhw fod yn llwyddiannus yn y farchnad lafur: felly, maen nhw mewn cylch o anfantais a bod heb waith.

Prosiect Marchnad Lafur Drosiannol yw Step-up sy’n gallu helpu pobl ifanc i dorri’n rhydd o’r cylch hwnnw.  Mae’n cynnig profiad gwaith â thâl i bobl ifanc tra’n eu darparu nhw â’r hyfforddiant sydd ei angen i godi lefel eu sgiliau yn ogystal â’u dyheadau, hyder, hunan-barch ac ysgogiad.

Mae Step-up yn agored i bobl ifanc 16/17 oed nad ydynt mewn mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, ac sy’n byw yn un o wardiau Cymunedau’n 1af Dinas a Sir Abertawe.

Caiff Step-up ei ariannu gan Brosiect ILM Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac mae’n darparu’r canlynol ar gyfer pobl ifanc:

  • Dau ddiwrnod o brofiad gwaith gyda thâl gyda chyflogwr lleol am 6 mis
  • Hyfforddiant tuag at gymwysterau
  • Cefnogaeth ac arweiniad personol, 1-i-1
  • Cyfle i weithio ar brosiect cymunedol
  • Cymorth gyda chwilio am waith

Am wybodaeth bellach cysylltwch â:

Step up CBSA

Ffôn - 01554 779910

eBost - .(JavaScript must be enabled to view this email address)

Making Wales a Better Place

Welcome message from Mike Theodoulou, CBSA Chairman.

RSS

Blog y Mike

Cyflwyniad Mike Theodoulou

Golygu blog
Back to top of site