STARS

Prosiect pedair blynedd yw STARS ay’n anelu at helpu gofalwyr neu gyn-ofalwyr di-waith neu sy’n economaidd anweithgar i gymryd mwy o reolaeth dros eu bywydau drwy ddatblygu eu siliau bywyd a chyflogadwyedd. Mae’r prosiect hefyd yn eu darparu nhw ag ystod o gyfleoedd gan gynnwys hyfforddiant, gwirfoddoli a phrofiad gwaith fydd yn eu helpu nhw i fagu’r sgiliau a’r profiad fydd yn gymorth iddyn nhw i gael gwaith neu i fynd ymlaen i ddysgu pellach.  Mae cyfranogwyr y prosiect hefyd yn derbyn cefnogaeth Swyddog Prosiect profiadol.  Mae’r prosiect yn rhedeg yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

Caiff STARS ei ddarparu ar y cyd â Crossroads Care Sir Gâr a Crossroads Canolbarth a Gorllewin Cymru, sy’n darparu gofal seibiant er mwyn rhoi cyfle i ofalwyr gymryd rhan.

Caiff y prosiect ei weithredu o dan gytundeb i’r Gronfa Loteri Fawr yn rhan o’i Raglen Sgiliau Bywyd a chaiff ei gyd-ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â:

STARS CBSA

Ffôn - 01554 779910

eBost - .(JavaScript must be enabled to view this email address)

Making Wales a Better Place

Welcome message from Mike Theodoulou, CBSA Chairman.

RSS

Blog y Mike

Cyflwyniad Mike Theodoulou

Golygu blog
Back to top of site