
Family Goals is delivered in partnership with Carmarthenshire Youth
Mae diweithdra a bod heb waith yn hirdymor yn achosi niwed i bobl ac i gymdeithas. Mae Cymru wedi dioddef effeithiau’r niwed hwn am y degawdau a aeth heibio wrth i’r hen ddiwydiannau gau: hyd yn oed trwy’r amseroedd gwell diweddar, mae Cymru wedi gweld lefelau uwch o ddiweithdra nag ardaloedd eraill o’r DU. Parhaodd y sefyllfa yma drwy’r dirwasgiad a ddilynodd: heddiw, saif diweithdra yng Nghymru yn 8.4% o’r boblogaeth o oedran gweithio – eto, ymysg yr uchaf o ranbarthoedd y DU.
O ran yr unigolyn, mae diffyg gwaith a gobaith i’r dyfodol yn arwain at hunan-barch isel, diffyg dyhead, tlodi sylweddol, iechyd gwael ac allgáu cymdeithasol. Mae’r effaith sy’n pontio’r cenedlaethau hyd yn oed yn fwy digalon, gan ymestyn i les plant ac wyrion, yn ogystal â’r tebygrwydd y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn wynebu bod yn ddi-waith am gyfnodau hir.
Ar hyn o bryd, mae CBSA yn darparu ystod o ymyriadau, sydd wedi’u llunio’n benodol er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn o fewn y Rhaglen Goliau Teulu. Mae hwn yn anelu at leihau nifer y teuluoedd sy’n wynebu diweithdra drwy ddarparu’r gefnogaeth unigol sydd ei hangen ar amryw aelodau’r teulu i’w helpu nhw i mewn i waith neu i ddysgu pellach.
Caiff Goliau Teulu ei ddapraru o dan gytundeb i raglen Sgiliau Bywyd Y Gronfa Loteri Fawr, gaiff ei chefnogi gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Mae’n dyled ni’n fawr i’r busnesau lleol sy’n cynnig lleoliadau gwaith, mentora a chefnogaeth hyfforddi cyflogadwyedd i’r prosiect.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â:
Prosiect Goliau Teulu
Ffôn - 01554 779910
eBost - .(JavaScript must be enabled to view this email address)