Gweledigaeth CBSA yw Cymru sy’n fentrus; gydag economi’n cael ei yrru gan fentrau cyfrifol sy’n creu swyddi da, cynaliadwy ar gyfer ein plant a phlant ein plant.
Ein Pwrpas
Arfogi busnesau, cymunedau ac unigolion yn well fel eu bod nhw’n gallu cyrraedd eu llawn botensial drwy ddod â nhw at ei gilydd i weithio mewn modd adeiladol a chydweithredol er mwyn gwneud Cymru’n lle gwell i fyw ac i weithio.
Goliau Strategol
Effaith Economaidd – Cefnogi datblygiad mentrau newyudd, a thwf busnesau sy’n bodoli eisoes, er mwyn cynyddu’r swyddi sydd ar gael yn lleol, sy’n ddiogel ac yn talu’n dda.
Llais i Fusnes – Dylanwadu polisi a gwella bywydau drwy ddarparu llais clir a phenodol ar gyfer busnesau Cymreig ar faterion economaidd a chymdeithasol.
Effaith Gynaliadwy – Ymgysylltu â busnesau a’u cefnogi nhw i feithrin arferion cyfrifol: nid yn unig oherwydd eu bod nhw’n dda ar gyfer busnes, ond oherwydd eu bod nhw’n ffordd o fynd i’r afael â rhai o’r heriau cymdeithasol anoddaf yng Nghymru.
Effaith Gymdeithasol – Grymuso cymunedau a chefnogi unigolion i wneud mwy drostynt eu hunain drwy fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n difa cyfle.
Rhagoriaeth Gweithredol – Rheoli ein risgiau a gwneud y gorau o’n hadnoddau, drwy lywodraethu cadarn ynghyd â rheolaeth a datblygiad cyfrifol o’n pobl a’n adnoddau ariannol ni.
Making Wales a Better Place
Welcome message from Mike Theodoulou, CBSA Chairman.