Siarter Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae’r siarter hwn yn egluro ein dull ni o sicrhau cynhwysiant a llwyddiant ar gyfer holl ein cyflogeion a’n rhanddeiliaid allanol gan gynnwys cyflenwyr, cleientiaid, cyfranogwyr, cyllidwyr a chyrff statudol.


Bydd y sefydliad yn ceisio sicrhau:

 

  • Ei fod yn gwireddu’r holl ofynion cyfreithiol gaiff eu gosod gan Ddeddfwriaeth Gydraddoldeb.
  • Ei fod yn gwireddu ei ddyletswydd i wneud addasiadau gymaint ag sy’n ymarferol resymol, er mwyn galluogi cyflogeion a’i holl randdeiliaid i gael mynediad a chyflawni eu gwaith a’u dyletswyddau.
  • Fod pob rhanddeiliad yn ymwybodol o’r gwerth a roir gan y sefydliad ar gydraddoldeb ac amrywiaeth ac y gallai ymchwiliad ffurfiol ddigwydd pe bai polisi’n cael ei dramgwyddo.
  • Fod ein deunyddiau marchnata a chyhoeddusrwydd yn cyflwyno negeseuon addas a’u bod wedi’u dylunio er mwyn parchu holl aelodau cymdeithas.
  • Ei fod yn darparu copi o’i bolisïau cydraddoldeb ac amrywiaeth i bob rhanddeiliad ac yn sicrhau eu bod nhw’n deall eu cyfrifoldebau ac yn cytuno i gadw atynt tra’u bod yn gweithio gyda’r sefydliad.
  • Fod ganddo broses recriwtio a dethol, dyrchafu a datblygu cynhwysol ac agored er mwyn annog cyflogeion a chleientiaid i ddatblygu a chamu ymlaen.
     

Fe wnawn ni hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth drwy:

 

  • Hyrwyddo gweithredol o gyfle cyfartal a chysylltiadau da rhwng pob rhan o’r gymuned.
  • Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy’r holl weithgareddau gweithredol.
  • Annog cyfranogiad gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn holl weithgareddau amrywiol y sefydliad.
  • Sicrhau fod ein gwasanaethau, ein cyfathrebu, ein gweithredoedd a’n adnoddau yn dangos sensitifrwydd i faterion amrywiaeth a’u bod yn cael eu  haddasu fel bo’n angenrheidiol.
  • Sichrau fod gan bawb wasanaeth i’w gwasanaethau ni.
  • Ennill achrediadau i gefnogi safonau cyfle cyfartal.
  • Gweithredu dull cynhwysol o ddathlu llwyddiant.
  • Atgyfnerthu ein hymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein deunydd cyhoeddusrwydd.

Making Wales a Better Place

Welcome message from Mike Theodoulou, CBSA Chairman.

RSS

Blog y Mike

Cyflwyniad Mike Theodoulou

Golygu blog
Back to top of site