Sefydliad annibynnol, yn seiliedig ar aelodaeth yw CBSA Busnes a Gweithredu Cymdeithasol .
Ein gweledigaeth ni yw Cymru sy’n ffyniannus ac sy’n hyderus – Cymru sy’n cael ei gyrru gan fentrau cyfrifol sy’n creu swyddi da, cynaliadwy ar gyfer ein plant a phlant ein plant a chymunedau sefydlog sy’n cwrdd ag anghenion cymdeithasol y boblogaeth.
Wrth weithio i wireddu’r weledigaeth yma, rydym ni wedi esblygu i fod yn frîd newydd o sefydliad; un sy’n ceisio sicrhau fod y gymuned fusnes yn gallu chwarae rhan lawn mewn helpu i ddatrys rhai o’r problemau cymdeithasol ac economaidd allweddol y mae Cymru’n debygol o’u wynebu dros y 10 mlynedd nesaf. Ar yr un pryd, rydym ni’n gweithredu ystod o brosiectau sy’n anelu at sicrhau fod gan ein cymunedau’r hyder, y sefydlogrwydd a’r sgiliau sydd ar fusnesau eu hangen i’w gwneud nhw’n llwyddiannus. Rydym ni’n credu fod y rhain yn faterion sy’n ategu ei gilydd ac nad oes modd taclo’r naill heb ystyried y llall.
Rydym ni’n annibynnol oddi wrth lywodraeth ac nid oes gennym ni deyrngarwch i unrhyw grŵp buddiannnau gwleidyddol nac economaidd. Ein hunig ddiddordeb ni yw arfogi busnesau, cymunedau ac unigolion yn well fel eu bod nhw’n cyrraedd eu llawn botensial drwy ddod â nhw at ei gilydd i weithio mewn modd adeiladol a chydweithredol er mwyn gwneud Cymru’n lle gwell i fyw ac i weithio.
Rydym ni’n gwmni di-elw, cyfyngedig trwy warant.
Hanes
Dechreuodd y sefydliad tua 30 mlynedd yn ôl yn asiantaeth ddatblygu cymunedol oedd yn helpu pobl ifanc di-waith i fagu’r sgiliau a’r hyder y mae cyflogwyr eu hangen; ym 1989, ail-grëwyd y sefydliad yn asiantaeth fenter ieuenctid. Roedd yr asiantaeth yn gweithio gyda phobl ifanc di-waith i wneud hunangyflogaeth yn opsiwn cadarnhaol drwy ddarparu hyfforddiant a chyngor, ynghyd â gofod gweithdy deor.
Dros y pymtheg mlynedd a ddilynodd, fe esblygom ni’n asiantaeth fenter generig gan ddarparu cyngor dechrau busnes, yn ogystal â darparu cyngor, arweiniad a sgiliau hanfodol er mwyn i fusnesau presennol allu tyfu; gan gredu mai adnewyddu economaidd cynaliadwy oedd yr allwedd i nifer o broblemau Cymru. Rydym ni hefyd yn credu fod hyrwyddo mentrau cadarn yn ffordd dda i adfywio cymunedau gan fod busnesau lleol yn fwy tebygol o gyflogi pobl lleol, o ddarparu gwasanethau sy’n gwella ansawdd bywyd, a gwario arian yn lleol, gan felly gylchredeg cyfoeth yn y gymuned leol.
Yn 2008, datblygom ni i fod yn siambr fusnes, gan ehangu ein cylch gwaith daearyddol i ganolbarth a gorllewin Cymru a mynd i’r afael â’r her o siarad ar ran busnesau ar draws y rhanbarth. Ar yr un pryd, datblygom ni’n sefydliad cefnogi busnes mwyaf canolbarth a gorllewin Cymru drwy ddarparu ystod o gytundebau allweddol llywodraeth Cymru ar draws y rhanbarth.
Fodd bynnag, ar yr un pryd, fe arhosom ni’n dryw i’n gwerthoedd o gyfiawnder cymdeithasol drwy ddapraru portffolio o weithgareddau oedd â’u ffocws ar weithredu cymdeithasol. Drwy wneud hynny, roeddem ni’n ceisio cynnwys busnesau ymhob rhan o’n gwaith ni. Fe wnaethom ni hyn gan ein bod ni’n deall fod y sector preifat mewn sefyllfa dda i ddarparu atebion i rai o’r prif heriau cymdeithasol rydym ni’n eu hwynebu yng Nghymru heddiw – boed trwy ystod o weithgareddau, gan gynnwys mentora, noddi, datblygu sgiliau, lleoliadau gwaith, gwirfoddoli neu gyfraniadau elusennol.
Ein Cyflawniadau
Fel y gwelir uchod, rydym ni wedi cael llwyddiant blaenorol sylweddol mewn darparu gwasanaethau cefnogi busnes a phrosiectau gweithredu cymdeithasol ar draws y rhanbarth. Bu’r gwasanaethau’n gymorth i fusnesau newydd ddechrau a ffynnu, yn ogystal â helpu busnesau presennol i dyfu ac i ehangu.
Er enghraifft, ni sydd wedi bod â chytundeb Rhaglen Dechrau Busnes Llywodraeth Cymru ers dros 10 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym ni wedi helpu:
Hefyd, mae’n Gwasnaeth Datblygu Cyflenwyr ni wedi helpu nifer o fusnesau i ennill cytundebau sector preifat a chyhoeddus dros y tair blynedd diwethaf. Yn ystod y cyfnod hwn, mae’r gwasanaeth wedi:
Rydym ni hefyd wedi:
Ar yr un pryd, mae’n rhaglenni gweithredu cymdeithasol ni’n helpu pobl sy’n wynebu anfantais ac allgáu cymdeithasol i greu gwell dyfodol ar eu cyfer nhw’u hunain ac ar gyfer eu teuluoedd. Er enghraifft:
Y Dyfodol
Yn seiliedig ar yr uchod – mae’r esblygiad i CBSA, ar gyfer Busnes a Gweithredu Cymdeithasol yn adlewyrchu’r cam rhesymegol nesaf yn nyfodol y sefydliad. Mae cyrhaeddiadau ac ethos y sefydliad yn dangos yn glir fod y dull o weithredu a feithrinwyd yn gweithio a’i fod yn haeddu cyfle i’w atgynhyrchu ar draws y Dywysogaeth. Mae’r brand a’r enw wedi eu newid er mwyn adlewyrchu ein gwerthoedd, ethos ac ardal ddaearyddol yn well.